Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Mawrth 2019
Amser:
09.17 -
12.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5327
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Hefin David AC Suzy Davies AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC |
Tystion: |
Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru Nathan Cook, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Gareth Rogers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack
Sargeant AC a Michelle Brown AC. Nid oedd Aelodau'n dirprwyo ar eu
rhan.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Swyddog Meddygol yng nghyswllt y strategaeth ddrafft.
2.3 Cytunodd y Prif Swyddog Meddygol i ddarparu gwybodaeth yn egluro faint o arian a gafwyd gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r ardoll diwydiant diodydd meddal.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau cleifion mewnol CAMHS Haen 4 yng Nghymru.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â Deiseb P-05-857 - Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl plant.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn y cynnig ar gyfer sesiwn friffio ar asesiadau effaith gronnol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
4.1
Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn gyda'r Prif Swyddog Meddygol. Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ymateb drafft i'r ymgynghoriad yn ystod y cyfarfod ar 28 Mawrth.
6.1 Yn
amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad
drafft.
7.1 Yn
amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar yr ymateb
drafft i'r ymgynghoriad.
8.1
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
9.1 Trafododd y Pwyllgor amserlen y Bil.